Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 31
Ionawr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cyrmu): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi?
I’r Prif Weinidog:
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
(45 munud)
Dogfen Ategol:
Adolygiad o Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru
(15 munud)
NDM6218 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg
yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu
(60 munud)
NDM6217 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a
2.
Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a
mwy cyfartal.
Dogfen Ategol
Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb
2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb
2016
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.
'Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan
2'
Gwelliant
2.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Chwefror 2017